Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Capello’n mynd, Redknapp ar y ffordd?

Chwefror 9, 2012 08:10


Fabio Capello - wedi mynd
Mae’r galw eisoes wedi dechrau i wneud rheolwr Spurs, Harry Redknapp, yn rheolwr nesa’ tîm pâl-droed Lloegr.

Ddoe, ar y diwrnod pan gafodd ef ddedfryd ddieuog ar gyhuddiadau o osgoi talu trethi, fe ymddiswyddodd Fabio Capello o arwain y tîm cenedlaethol.

Fe ddaeth hynny ar ôl cyfarfod hir gyda phenaethiaid Cymdeithas Bêl-droed Lloegr ar ôl iddo anghytuno’n gyhoeddus â’r penderfyniad i dynnu capteniaeth y tîm oddi ar chwaraewr Chelsea, John Terry.

Roedd Capello’n credu y dylen nhw fod wedi aros tan ar ôl yr achos llys ac mae’n dweud fod y penderfyniad, heb ymgynghori gydag ef, yn tanseilio’i sefyllfa.

Y ffefryn

Harry Redknapp, sydd wedi arwain Spurs i’w cyfnod gorau yn yr Uwch Gynghrair, yw’r ffefryn clir i gymryd y swydd ac mae un cwmni betio’n gwrthod derbyn rhagor o arian arno.

Mae un o brif chwaraewyr y wlad, Wayne Rooney, hefyd wedi cyhoeddi neges trydar yn pledio am gael Redknapp yn rheolwr.

Mae yna elfen o frys o ran llenwi’r swydd £6 miliwn-y-flwyddyn, gan fod Lloegr yn cymryd rhan yn rowndiau terfynol Pencampwriaeth Ewrop ymhen pedwar mis.

Ond fe fydd gwrthwynebiad o gyfeiriad Tottenham Hotspur – mae gan Redknapp fwy na dwy flynedd ar ôl ar ei gytundeb ac mae’r clwb yn herio am y bencampwriaeth am y tro cynta’ ers blynyddoedd maith.

Pedwar digwyddiad allweddol

  • John Terry, capten Lloegr, yn cael ei gyhuddo mewn llys o drosedd hiliol yn erbyn chwaraewr arall.
  • Cymdeithas Bêl-droed Lloegr yn penderfynu na ddylai fod yn gapten Lloegr.
  • Fabio Capello’n gwrthwynebu hynny’n agored ar deledu’r Eidal, gan ddweud nad oedd yn rhan o’r drafodaeth.
  • Harry Redknapp yn cael dedfryd ddieuog ar gyhuddiadau o osgoi talu treth – yr un funud bron ag yr oedd Capello’n gadael.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.