
Mae dyn mewn cyflwr “difrifol ond sefydlog” mewn ysbyty ar ôl cael ei saethu gan blismyn yn ne Llundain heddiw.
Roedd plismyn arfog wedi cael eu hanfon i Elsinore Road, Forest Hill, ar ôl i’r dyn fygwth heddlu lleol ag “arf â llafn mawr”.
Dywedodd Heddlu Llundain fod y plismyn lleol yn ymchwilio i adroddiadau gan aelodau o’r cyhoedd fod dyn yn ceisio torri i mewn i gar yn Elsinore Road tua 5.40 y bore yma.
“Wrth i blismyn lleol geisio dynesu at y dyn fe wnaeth eu bygwth ag arf â llafn mawr, ac fe wnaethon nhw alw am help unedau eraill wedyn, gan gynnwys swyddogion arfog,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.
“Fe wnaeth y plismyn arfog ddefnyddio arfau taser ac arfau tân a derbyniodd y dyn anafiadau dryll. Galwyd y gwasanaeth ambiwlans ac aed ag ef i ysbyty.”
Mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu wedi cychwyn ymchwiliad.
Dywedodd llefarydd ar eu rhan fod y dyn a gafodd ei saethu, sydd yn ei 20au cynnar, ac yn wreiddiol o Ghana ond bellach o Forest Hill, yn cael triniaeth yn Ysbyty King’s College yn Llundain.
Heledd , Chwefror 20, 2012 6:19 pm
§| Nodi camddefnydd