Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Sun ar y Sul yn yr Alban yn ‘cyhoeddi’ dyddiad y refferendwm

Chwefror 26, 2012 11:37


Rupert Murdoch - perchennog y Sun
Mae argraffiad cyntaf o bapur newydd y Sun ar y Sul yn yr Alban yn honni mai dydd Sadwrn 18 Hydref 2014 y bydd y refferendwm am annibynniaeth i’r wlad yn cael ei gynnal.

Mae’r stori dudalen flaen yn dyfynnu “ffynhonnell o fewn y llwyodraeth” sy’n dweud “Dyma’r diwrnod sy’n cael ei nodi fel y dydd y bydd pobl yn cael pleidleisio dros annibynniaeth a chydraddoldeb yn yr Alban.”

Mae llywodraeth yr Alban wedi dweud bod y dyddiad yma yn bosibl gan nodi eu bod wedi cyhoeddi eisoes eu bod am gynnal y refferendwm yn ystor tymor yr hydref 2014.

Dros y ffin yn Lloegr, cyfweliad efo’r gyflwynwraig Amanda Holden sydd ar y dudalen flaen. Mae’n adrodd sut y bu iddi bron a marw wrth eni ei merch yn ddiweddar.

Mae rhai pethau yn gyffredin i’r ddau bapur beth bynnag.

Mae Katie Price, neu’r fodel Jordan, yn un o’r colofnwyr ac yn talu teyrnged i Marie Colvin, gohebydd y Sunday Times laddwyd yn Syria yn ystod yr wythnos gan ddweud ei bod yn union y fath o ddynes sy’n gwneud argraff arni .

Ymhlith y  colofnwyr eraill mae’r cogydd Heston Blumenthal, Archesgob Efrog, John Sentamu a Nancy Dell’Olio, sy’n ysgrifennu colofn ffasiwn.

Golygydd y Sun dyddiol, Dominic Mohan fydd golygydd y papur Sul hefyd.

Mae deg newyddiadurwr sydd wedi neu yn gweithio i’r Sun ymhlith y 30 sydd wedi cael eu harestio hyd yma fel rhan o ymchwiliadau’r heddlu i hacio ffonau.

Mae golygyddol y Sun ar y Sul yn dweud “Yr ydym yn credu bod yr unigolion yma yn ddi-euog hyd nes y cawn nhw eu profi’n euog”.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.