Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Dim sicrwydd byddai’r Alban yn rhan o’r UE medd Gweinidog

Tachwedd 21, 2012 15:02, Diweddarwyd am 15:03


Byddai’n rhaid i Alban annibynnol aros ei thro cyn ymuno gyda’r Undeb Ewropeaidd, meddai Gweinidog yn y Swyddfa Dramor.

Yn ôl Hugo Swire AS nid oes sylwedd i honiadau’r SNP y byddai’r Alban yn parhau yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd pe bai’n dod yn annibynnol.

Dywedodd Hugo Swire nad yw’r Swyddfa Dramor wedi trafod goblygiadau annibyniaeth gyda llywodraeth yr Alban am nad ydyn nhw am rag-dybio canlyniadau’r refferendwm yn 2014, ond dywedodd fod swyddogion yn Whitehall yn “dadansoddi’r materion cyfreithiol.”

“Nid yw annibyniaeth yn estyniad syml o’r drefn ddatganoledig sydd wedi gweithio mor dda,” meddai’r aelod seneddol Ceidwadol dros Ddwyrain Dyfnaint.

“Mae’n gam di-droi’n-ôl. Byddai’n creu gwladwriaeth newydd a fydd yn cymryd ei lle ar lwyfan rhyngwladol sydd eisoes yn llawn.

“Byddai’n rhaid i’r Alban ddechrau o’r newydd,” meddai.

Dywedodd Pete Wishart AS o’r SNP nad oes gwlad sy’n dymuno aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd erioed wedi cael ei “chicio allan.”

Ychwanegodd mai’r peryg mwyaf i ddyfodol yr Alban o fewn yr UE oedd yr ewro-amheuwyr ymhlith y Ceidwadwyr oedd yn barod i “guro eu llywodraeth eu hunain er mwyn tynnu allan o Ewrop.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Nodi Camddefnydd
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y ddolen ’Nodi camddefnydd’ sy’n ymddangos wrth ymyl pob sylwad. Os bydd dau berson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.


Sion , Tachwedd 21, 2012 3:26 pm

Oes sicrwydd y byddai gwladwriaeth newydd EnglandWales&NorthernIreland yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd? Os mai’r gwir yw taw un wladwriaeth yn rhannu’n ddwy fydd hyn, sut bod un rhan o’r hen wladwriaeth yn aros yn Ewrop yn awtomatig, a’r llall yn cael ei thaflu allan? Malu awyr.

“llwyfan rhyngwladol sydd eisoes yn llawn”

Ydy e’n trio dweud bod y “llwyfan rhyngwladol”, rhywbeth dychmygol, yn rhy llawn ar gyfer gwlad arall?!

§| Nodi camddefnydd

a.non , Tachwedd 21, 2012 5:09 pm

Dyna syrpreis mawr – gwleidydd san steffan ceisio rhoi dwr oer ar annibynniaeth yr Alban. Er wnaeth uwch swyddog or UE dweud fel arall wsnos diwethaf. Dwi gwybod pwy dwi’n credu.

§| Nodi camddefnydd

Guto , Tachwedd 21, 2012 6:00 pm

Er fy mod yn gefnogwr brwd o annibyniaeth i’r Alban (ac i ni) ac er ei fod yn gwbl amlwg be mae Hugo Swire yn ceisio’i wneud (h.y. codi bwganod i ceisio tanseilio’r ymgyrch am annibyniaeth), mae yna bwynt diddorol yn cael ei godi ganddo. Hynny yw, dwi’n amau y byddai’r Alban yn cael ymuno’n awtomatig a’r Undeb yn syth byn heb orfod ymgeisio o’r newydd a sefyll profion economaidd – y cwestiwn yw am ba mor hir y bydd rhaid i nhw ddisgwyl cyn cael ail-ymuno?

Mae Sion hefyd yn codi cwestiwn diddorol – yn swyddogol, undeb rhwng ddwy wlad yw “Prydain Fawr” (yn swyddogol ac yn ymarferol, doedd gan Gymru ddim dweud yn y mater – cael ein meddiannu trwy drais oedd ein hanes ni yn hytrach na chytundeb a llwgrwobrwyo fel yn achos yr Alban). Felly os fod un hanner o’r undeb hwnnw’n gadael “Prydain Fawr” yna does bosib fod hynny’n golygu bod yr hanner arall hefyd yn “wlad” newydd ac felly y bydd rhaid i’r ddwy “wlad” newydd ymgeisio o’r newydd am gael ymuno a’r Undeb Ewropeaidd.

Byddai hynny wrth gwrs yn fel ar fysedd Toriaid Lloegr, wrth i nhw weld eu cyfle i ymadael ag Ewrop. Ond fe fyddai hynny yn ei dro yn gwthio Cymru (sydd yn draddodiadol yn agosach at Ewrop na Lloegr) yn bellach oddi ar Loegr. Ac, hey presto, fe ddaw ein dydd!

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Nodi Camddefnydd
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y ddolen ’Nodi camddefnydd’ sy’n ymddangos wrth ymyl pob sylwad. Os bydd dau berson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.