Dug a Duges Caergrawnt
Fe fydd y Llywodraeth yn bwrw mlaen gyda deddfwriaeth i ddod a diwedd i’r gwahaniaethu yn erbyn merched rhag etifeddu’r orsedd ym Mhrydain, meddai’r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg heddiw.

Mae’r Llywodraeth wedi cael caniatâd terfynol gan holl wledydd y Gymanwlad i fwrw mlaen gyda’r ddeddfwriaeth.

Dywedodd Nick Clegg y byddai gweinidogion yn cyflwyno’r Bil yn Nhŷ’r Cyffredin ar y “cyfle cyntaf.”

Fe fydd y ddeddfwriaeth yn golygu y bydd plentyn cyntaf Dug a Duges Caergrawnt yn etifeddu’r orsedd, os yw’r babi’n ferch neu’n fachgen.

Dywedodd Nick Clegg ei bod yn ddiwrnod “hanesyddol i’n gwlad a’r frenhiniaeth.”