Stuart Hall
Mae sylwebydd y BBC Stuart Hall wedi cael ei arestio ar amheuaeth o dreisio ac ymosod yn anweddus, yn ol ffynhonellau.

Cafodd Hall, 82, sy’n gyn-gyflwynydd It’s a Knockout, ei arestio yn ei gartref yn Wilmslow, Sir Gaer, bore ma.

Cafodd ei holi gan Heddlu Sir Gaerhirfryn ynglyn a throseddau “hanesyddol.” Nid yw’r heddlu wedi cyhoeddi ei enw.

Mae Stuart Hall wedi bod yn lais cyfarwydd ar raglenni’r BBC ers hanner canrif.