Mae Mistar Urdd yn croesawu ei ffrind hoff, Pen Gwyn, o Batagonia i Faes yr Eisteddfod yn Llancaiach Fawr eleni, 30 mlynedd a mwy ers i’r ddau gyfaill gyfarfod diwethaf.

Cyflwynwyd y cymeriad yn wreiddiol ym 1979 gan swyddog cyhoeddusrwydd yr Urdd ar y pryd, Wynne Melville Jones, a fu hefyd yn gyfrifol am greu Mistar Urdd. Bydd Pen Gwyn yn bresennol ar y maes ar ffurf teganau meddal fydd ar werth yn stondin yr Urdd.

Bydd Pen Gwyn hefyd yn ymddangos yng nghylchgrawn misol plant 7-11 oed yr Urdd, CIP, ar ôl i olygydd cylchgronau’r Urdd, Llio Maddocks, ddod o hyd i gartŵnau gwreiddiol o’r cymeriad a grëwyd gan awdur llyfrau Sali Mali, y diweddar Mary Vaughan Jones.

Fe ddarganfuwyd y cartŵnau mewn hen rifynnau o’r cylchgrawn Deryn oedd wedi’u storio yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn. Byddant yn cael eu diweddaru yn weledol a’u hatgynhyrchu mewn lliw llawn yn CIP o fis Medi ymlaen.

Mae presenoldeb Pen Gwyn ar faes Eisteddfod Caerffili yn cyd-fynd â’r dathliadau i nodi 150 mlynedd ers sefydlu’r Wladfa, ac mae’n un o nifer o weithgareddau yn gysylltiedig â Phatagonia sydd ar y gweill gan yr Urdd.

Bydd criw o ddisgyblion o Ysgol yr Hendre, Patagonia yn ymweld â’r Maes, ac mae Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd 2015 wedi’i hysbrydoli gan fordaith y Mimosa, a gludodd y Cymry cyntaf hynny i Dde America.