Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Nofiad Gŵyl San Steffan: 650 yn cymryd rhan

Rhagfyr 26, 2011 14:38


Llun: Gareth Davies
Mae mwy na 650 o bobol mewn gwisg ffansi wedi cymryd rhan yn nofiad Gŵyl San Steffan flynyddol Dinbych-y-Pysgod, heddiw.

Roedd dros 300 yn fwy na’r llynedd wedi cymryd rhan, diolch yn bennaf i’r tywydd mwyn oedd yn hollol wahanol i’r rhew a’r eira yn 2010.

Dyma’r 41fed blwyddyn yn olynol y mae’r dref wedi cynnal y nofiad, ac mae’r digwyddiad yn Sir Benfro wedi datblygu yn un o uchafbwyntiau tymor y Nadolig yn yr ardal ac yn denu pobol o bob cwr o Brydain.

Diolchodd y trefnwyr i’r rheini gymerodd rhan heddiw, oedd mewn amryw o wisgoedd gan gynnwys bananas a setiau teledu.

“Mae mwy na 650 o nofwyr wedi plymio i’r dŵr yn Ninbych-y-pysgod er mwyn nodi 41fed nofiad Gŵyl San Steffan y dref – y mwyaf erioed,” meddai llefarydd ar ran yr ŵyl.

“Roedd tyrfa o filoedd wedi dod mewn tywydd mwyn ond gwlyb er mwyn gwylio’r olygfa gwirion. Roedd rhaid rhedeg yn bell i gyrraedd y môr oherwydd y llanw isel.”

Mae’r dref wedi cael hyd yn oed mwy o sylw eleni ar ôl i archfarchnad Tesco benderfynu cynnwys y digwyddiad yn eu hysbyseb Nadoligaidd.

“Mae’r tywydd wedi bod yn garedig i ni ac fe ddaeth tyrfa anferth i lenwi’r traeth,” meddai Chris Osborne, cadeirydd y nofiad.

“Mae Dinbych-y-Pysgod wedi cael llawer mwy o sylw na’r arfer ar y teledu eleni ac roedd yn braf gallu cau pen y mwdwl ar y flwyddyn drwy dorri’r record am nifer y nofwyr.”

Mae’r digwyddiad wedi codi miloedd i elusennau, gan gynnwys Gofal Canser Sir Benfro, Hafan Cymru a’r Ganolfan Achub Elyrch.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.