Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Gafr yn ffoi o ddrama’r geni

Rhagfyr 27, 2011 11:29


Oes gafr eto?
Mae gafr ar ffo ar ôl dianc o ddrama’r geni mewn eglwys yn yr Unol Daleithiau.

Roedd gan yr afr tair oed rhan ymylol yn y gwasanaeth yn Eglwys Bethlehem yn Fergus Falls, talaith Minnesota.

Ond llwyddodd yr afr i ddianc a does dim golwg ohoni hyd yn hyn.

Dywedodd perchennog yr afr, Jim Aakre, ei fod wedi ceisio ei dal am ddwy awr ond fod y diffyg eira yn ei gwneud hi’n anodd olrhain llwybr yr anifail.

Mae’r afr wedi ei gweld sawl gwaith ers iddi ddenig ond dyw’r heddlu heb lwyddo i gael gafael arni hyd yn hyn.

Yn ôl papur newydd y Fergus Falls Journal roedd Jim Aakre hefyd wedi darparu dau lama a dau gi bach ar gyfer y gwasanaeth.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


John Griffith , Rhagfyr 27, 2011 5:39 pm

Dowch hogia bach, newyddion yw hyn?

§| Nodi camddefnydd

Fon Gruffydd , Rhagfyr 27, 2011 7:46 pm

Hollol John, a gan anwybyddu straeon mawr fel yr ymosodiadau uffernol yn Nigeria, argyfwng Syria, ayyb.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.