Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Paul Daniels yn colli bys

Ionawr 21, 2012 11:09


Paul Daniels
Mae’r dewin Paul Daniels wedi datgelu iddo lifio rhan o un o’i fysedd i ffwrdd drwy gamgymeriad.

Dywedodd y dyn sydd o dras Gymreig ei fod yn creu offer ar gyfer ei sioe hudol yn ei shed ar Ddydd Calan pan lithrodd a thorri ei fys.

“Fe aeth y llif drwy’r bys cyntaf, methu’r ail un a thorri top y trydydd i ffwrdd yn llwyr,” meddai.

“Dydw i ddim yn siŵr sut y cafodd yr ail fys ei arbed. Mae top y trydydd bys wedi mynd.”

Dywedodd y diddanwr sy’n byw yn Berkshire ei fod wedi llwyddo i atal y llif â’i law dde cyn stwffio ei law chwith i’w got a gyrru ei hun i’r ysbyty yn Henley-on Thames.

Ychwanegodd fod meddygon wedi llwyddo i achub ei fynegfys ond fod top ei fys modrwy wedi mynd am byth.

Mae’n disgwyl gallu parhau â’i waith er nad oedd yn gallu teimlo ei fysedd yn iawn, meddai.

“Roeddwn i’n poeni’n arw, ond maen nhw wedi gwneud gwaith gwych. Mae popeth yn gwella nawr,” meddai wrth bapur newydd y Daily Mail.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.