
Wedi blynyddoedd o fethiant fel dyfeisydd, mae Fritz Gall yn paratoi i agor amgueddfa i arddangos dyfeisiadau dwl yn Awstria.
Yn dilyn grant o £400,000 gan y llywodraeth, bydd yr amgueddfa newydd yn Herrnbaumgarten yn gartref parhaol i ddyfeisiadau llai defnyddiol yr oes.
Yn dilyn “ffair dyfeisiadau dwl”, a ddenodd 5,000 o ymwelwyr, mae Fritz a’i bartner Friedl yn gobeithio bydd yr amgueddfa yn boblogaidd iawn.
“Ar ôl cael yr arian yma gan y llywodraeth, ac ychydig o gefnogaeth preifat, rydyn ni’n gobeithio fydd y bobl sy’n galw yn mwynhau ein ‘nonsens’ cymaint a ni,” dywedodd Fritz.
Dyfeisiadau dwl
Ymysg y dyfeisiadau dwl mae ‘twll symudol,’ brwsh dannedd heb y darn brwsh ( i bobl heb dannedd), a siwmper gyda breichiau gwahanol hyd.
Neu beth am ddarn o garden du i roi dros eich llygaid, er mwyn i ‘selebs’ gael osgoi y ‘paps?’
Amgueddfa newydd
Bydd yr amgueddfa newydd mewn cwmni da yn lleol. Mae yna ddewis helaeth o amgueddfeydd eraill yn yr ardal, sydd rhyw awr tu allan i Fiena.
Mae Eglwys Maria Moos yn cynnig cyfle i weld ffynnon hynaf De Awstria, a’i hadeiladwyd yn 1160.
Neu beth am fynd am dro i ‘Amgueddfa Cwrw Hynaf De Awstria’ yn Laa?
Y gobaith yw bydd y ‘Nonseum’ yn agor yn hwyrach yn y flwyddyn.