
Mae llywodraeth Bosnia wedi cyhoeddi ei fod yn argyfwng ar y wlad ar ôl i flanced drwchus o eira ddisgyn ar y brifddinas Sarajevo.
Disgynnodd tair troedfedd o eira yno ddoe gan ei gwneud hi’n amhosib i rai pobol adael eu tai. Yn ôl adroddiadau mae silffoedd siopau’n wag, a phobol yn cwffio dros fara a nwyddau eraill.
“Mae’n anghredadwy. Dydw i ddim yn cofio eira fel hyn ers 30 mlynedd,” meddai Mirsada Mitrovic, o Sarajevo.
Cafodd cerbydau oedd yn cario tua 30 o bobol eu caethiwo mewn twnnel i’r de o’r brifddinas. Galwodd y bobol y gwasanaeth radio lleol gan alw am gymorth.
Ond pan anfonodd y llywodraeth swch eira i’w hachub fe aeth yn gaeth yn yr eira, medden nhw.
Y tywydd oer yw’r gwaethaf yn nwyrain Ewrop ers degawdau, ac mae eisoes wedi lladd 176 o bobol, y rhan fwyaf yn bobol ddigartref o’r Wcráin.
Yn y cyfamser mae’r eira trymaf wedi disgyn ar Rufain mewn 26 mlynedd, gan orfodi i’r awdurdodau gau’r Colosseum.
Mae 8 modfedd o eira wedi disgyn mewn rhai mannau, gan ddymchwel coed a dod a thrafnidiaeth gyhoeddus i stop.
Mae’r llywodraeth yno wedi rhoi 4,000 o rawiau am ddim i’r cyhoedd yn y gobaith y byddwn nhw’n helpu i glirio rhai o sgwariau’r ddinas.