
iPad
Mae rhagor o ddyfeisiau iPad wedi eu cipio oddi wrth fân-werthwyr yn China, wrth i’r ddadlau parhau rhwng Apple a chwmni lleol.
Mae awdurdodau yn ninas Zhengzhou a’r porthladd Qingda wedi cymryd iPads o siopau lleol, yn dilyn mesurau tebyg yn Shijiazhuang a Xuzhou.
Yn ninas ddwyreiniol Weihai, mae’r awdurdodau yn ymchwilio i gwyn gan gwmni Proview Technology, sy’n honni nad ydi Apple wedi parchu hawlfraint y cwmni dros yr enw iPad yn y wlad.
Roedd Proview wedi cofrestru’r enw iPad yn China yn 2001.
Prynodd Apple yr hawl i ddefnyddio’r enw gan Proview, ond mae’r cwmni yn honni maen nhw sydd berchen yr hawlfraint yn China.
Roedd llys yn y wlad wedi gwrthod hawl Apple i’r enw y llynedd.