Mae’r cyn-weithiwr CIA sydd wedi rhyddhau gwybodaeth am sut oedd America’n dod o hyd i’w ffeithiau, wedi dweud ei fod am aros yn Hong Kong.

Mae Edward Snowden wedi dweud, mewn cyfweliad gyda phapur newydd y South China Morning Post nad yw’n “fradwr nac yn arwr” – ond mae Americanwr ydyw.

Oherwydd hynny, fe fydd yn ymladd bob bwriad a cham cyfreithiol i geisio ei hel o Hong Kong yn ôl gartre’ i’r Unol Daleithiau.

Gadawodd Snowden, 29, dalaith Hawaii am Hong Kong ychydig cyn i’r stori am y cudd-wybodaeth dorri ac mae wedi bod yn byw mewn gwesty yn y ddinas ers hynny.

O ganlyniad i’r hyn mae Snowden wedi ei wneud, mae’n ymddangos fod yr Unol Daleithiau wedi bod yn cadw gwybodaeth dirfawr ar alwadau ffôn a defnydd rhyngrwyd nifer fawr o bobol.

Rhoi ffydd ym mhobol Hong Kong

“Dw i ddim yma i ffoi rhag cyfiawnder; dw i yma i ddatgelu achos o droseddu,” meddai Edward Snowden. “Fy mwriad yw gofyn i lysoedd a phobol Hong Kong benderfynu fy nhynged.