John Kerry
Mae Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, John Kerry, wedi dod a’i ymweliad i Bacistan i ben drwy addo rhoi terfyn ar ymosodiadau drôn yn erbyn milwriaethwyr yn “fuan iawn, iawn”.

Dywed adroddiadau bod ei sylwadau yn ymgais i leddfu ychydig ar y teimlad gwrth Americanaidd yn y wlad sy’n strategol bwysig i’r UDA.

Mae ymosodiadau drôn y CIA wedi lladd hyd at 3,460 o bobl ym Mhacistan ers 2004.

Mae’r rhan fwyaf o’r ymosodiadau wedi digwydd yn y rhanbarth cythryblus gogledd Waziristan, sy’n cael ei ystyried fel cadarnle i al-Qaeda a’r Taliban.

Fe wnaeth Prif Weinidog Pacistan, Nawaz Sharif, a enillodd etholiadau ym mis Mai, gyfarfod â John Kerry ddydd Iau.

Mae Nawaz Sharif wedi galw’n gyson am roi terfyn ar ymosodiadau o’r fath gan ddweud eu bod nhw’n torri sofraniaeth Pacistan.

Ond mae nifer yr ymosodiadau wedi gostwng yn sylweddol dros y 30 mis diwethaf. Cyfanswm o 17 sydd wedi bod hyd yn hyn eleni o’i gymharu â 48 yn 2012 a 73 yn 2011 yn ôl amcangyfrifon.

Wrth siarad ar ôl y cyfarfod dydd Iau, dywedodd John Kerry bod y trafodaethau wedi bod yn “adeiladol” a “chadarnhaol”.