Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



The King’s Speech yn hawlio coron LA

Chwefror 28, 2011 08:54


Colin Firth (CCA 3.0)
Yn ôl y disgwyl, ffilm The King’s Speech oedd prif enillydd seremoni’r Oscars neithiwr wrth gipio pedair gwobr. Roedd yna wobr hefyd i actor o Gymru.

Colin Firth, seren King’s Speech , oedd enillydd Oscar yr Actor Gorau am ei bortread o’r Brenin George VI a’i atal dweud.

Wrth dderbyn y wobr, fe awgrymodd wrth y gynulleidfa  mai dyma binacl ei yrfa a’i fod yn teimlo awydd i ddawnsio.

Fe enillodd The King’s Speech y wobr hefyd am y Ffilm Orau, y Cyfarwyddwr Gorau  a’r Sgript Gwreiddiol gorau.

Roedd yr awdur, David Seidler, yn diodde’ o atal dweud ei hun ac fe ddywedodd bod y ffilm wedi rhoi llais i bawb arall fel ef.

Christian Bale, a anwyd yn Hwlffordd, oedd enillydd Oscar yr Actor Cynorthwyol Gorau, yr un wobr a enillodd Hugh Griffith fwy na 40 mlynedd yn ôl.

Fe gafodd Bale y wobr am ei ran yn actio hyfforddwr sy’n gaeth i gyffuriau yn y ffilm The Fighter.

Natalie Portman oedd enillydd gwobr yr Actores Orau am ei ran yn y ffilm am ddawnsio balé Black Swan.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.