Mae hunanfomiwr wedi defnyddio cerbyd heddlu wedi’i ddwyn er mwyn mynd heibio i safle diogelwch yn Irac. Unwaith yr aeth heibio i’r checkpoint, fe ffrwydrodd ei ddyfais, gan anafu 14 o bobol.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad heddiw yn Ramadi, prifddinas rhanbarth Anbar, lle mae lluoedd diogelwch Irac wedi bod yn ymladd gwrthryfelwyr sydd wedi bod yn rheoli rhannau ohoni ers mis Rhagfyr.

Yn ôl yr heddlu yn Irac, fe gafodd y cerbyd Humvee ei ddwyn gan wrthryfelwyr a’i baentio â lliwiau’r fyddin, cyn cael ei ddefnyddio i dwyllo’r milwyr i ganiatau iddo fynd heibio.

Hefyd heddiw, fe gafodd bom ei ffrwydro ar ymyl ffordd yn Baqouba, 35 milltir i’r gogledd-ddwyrain o Baghdad, gan ladd capten yn y fyddin a phedwar o’i filwyr.