Mae etholiad mwya’r byd yn dechrau heddiw yn India, gyda mwy nag 800 miliwn o bobol yn pleidleisio tros gyfnod o fwy na phum wythnos.

Ac mae rhai sylwebwyr yn y wlad yn poeni y gallai’r canlyniad arwain at ragor o rwygiadau o fewn y wlad a thyndra rhwng gwahanol grefyddau.

Mae’r rhan fwya’ o’r sylw yn y wasg ac ar y teledu ar un dyn, Narendra Modi, sy’n cystadlu i fod yn Brif Weinidog ar ran un o’r ddwy blaid fawr, y BJP.

Ymgyrch ‘Americanaidd’

Mae wedi cynnal ymgyrch ‘Americanaidd’, gan wario’n helaeth ar gyhoeddusrwydd i greu teimlad ei fod yn ysgubo i mewn o dan y slogan, “Amser i newid, amser i Modi”.

Os yw’r polau piniwn yn gywir, fe fydd y gynghrair o bleidiau sydd dan arweinyddiaeth y BJP yn curo’r gynghrair fawr arall o dan blaid y Gyngres a’i hymgeisydd, Rahul Gandhi, er  mai honno sydd mewn grym ar hyn o bryd.

Un o brif arfau’r BJP yw cyhuddiadau fod y Gyngres yn llwgr ac wedi cam-lywodraethu yn ystod y blynyddoedd diwetha’.

Pryderon am Modi

Ond, ar yr un pryd, mae pryderon am Modi hefyd, gyda rhai’n ei gyhuddo o arwain ymgyrch bersonol yn hytrach nag un ar ran ei blaid.

Mae wedi digio rhai o hen do ei blaid ei hun ac mae pryderon y gallai buddugoliaeth iddo ef arwain at ragor o  rwygiadau o fewn y wlad, yn arbennig rhwng Moslemiaid a Hindwiaid.

Ac yntau’n Brif Weinidog ar dalaith Gujarat, mae Modi’n cael ei gyhuddo o sbarduno a chefnogi trais cymunedol yno pan gafodd tua 1,000 o bobol eu lladd, a thua thri chwarter y rheiny’n Foslemiaid.

Y drefn

Fe fydd y pleidleisio’n dechrau heddiw mewn dwy dalaith, Assam a Tripura, gyda’r pleidleisio wedyn yn digwydd fesul talaith a rhanbarth mewn naw cam, hyd at Fai 12, gyda’r canlyniad yn cael ei gyhoeddi 4 diwrnod yn ddiweddarach.

Dyma’r etholiad hira’ a’r druta’ erioed yn hanes y wlad.