Mae heddwas amlwg a phrofiadol yn yr Aifft wedi marw, wedi i fom ffrwydro o dan ei gar yng Nghairo.

Ac mae heddwas arall wedi’i ladd yn dilyn cyrch ar guddfan gwrthryfelwyr.

Fe ddaeth y cyhoeddiadau am y ddwy farwolaeth wrth i nifer yr ymosodiadau ar yr heddlu gynyddu gan wrthryfelwyr sy’n credu i’r cyn arlywydd, Mohammed Morsi, gael ei hel o’i swydd yn anghyfreithlon.

Yn yr ymosoadiad yn Cairo, roedd y Brigadier Ahmed Zaki yn mynd am ei waith pan ffrwydrodd y ddyfais, a’i anafu’n angheuol.

Bu farw’n ddiweddarach yn yr ysbyty.