Mae pedwar o bobol wedi cael eu lladd a phump wedi cael eu hanafu ar ôl i fom mewn car ffrwydro mewn ardal Gristnogol yn Nigeria.
Dywedodd heddlu’r wlad fod y bom wedi ffrwydro cyn i yrrwr y car gyrraedd y targed, sef stryd brysur yn ninas Fwslimaidd Kano.
Bu farw o leiaf 25 o bobol yn ardal Gristnogol Sabon Gari fis Mawrth diwethaf, ar ôl i hunan fomiwr mewn car yrru i mewn i safle bws prysur.
Mae ymosodiadau blaenorol wedi cael eu beio ar y mudiad Islamaidd eithafol Boko Haram – sydd wedi hawlio cyfrifoldeb am herwgipio bron i 300 o ferched ysgol yn ddiweddar yn ogystal â dau ffrwydrad arall y mis diwethaf wnaeth ladd dros 120 o bobol.
Mae Prydain, Ffrainc a’r Unol Daleithiau wedi anfon arbenigwyr milwrol i helpu awdurdodau Nigeria i ddod o hyd i’r merched.
Mae’r mudiad wedi lladd dros 1,500 o bobol eleni, wrth iddyn nhw geisio gorfodi’r grefydd Islamaidd ar drigolion y wlad.