Oscar Pistorius
Mae barnwr wedi dyfarnu y bydd Oscar Pistorius yn dechrau cyfnod o werthuso seiciatrig o ddydd Llun nesaf.
Dywedodd y Barnwr Thokozile Masipa heddiw y bydd achos llofruddiaeth yr athletwr yn yr Uchel Lys yn Pretoria yn cael ei ohirio tan 30 Mehefin tra bydd yn cael ei werthuso yn Ysbyty Seiciatrig Weskoppies.
Mae’n rhaid i Pistorius fynd i’r ysbyty am 9 y bore bob diwrnod o’r wythnos a bydd yn cael ei werthuso gan banel o bedwar arbenigwr iechyd meddwl.
Bydd yn cael gadael yr ysbyty bob dydd am 4 y prynhawn neu pan fydd yn cael caniatâd gan awdurdodau’r ysbyty.
Dyfarnodd y Barnwr Masipa na fydd y cyfnod o werthuso yn fwy na 30 diwrnod.
Roedd seiciatrydd wedi rhoi tystiolaeth yn yr achos fod gan Pistorius anhwylder pryder a allai fod wedi cyfrannu at y digwyddiadau’n arwain at saethu ei gariad, Reeva Steenkamp, yn farw yn ei gartref ar Ddydd Sant Ffolant y llynedd.
Dywed Pistorius ei fod wedi ei saethu ar gam gan gredu mai lleidr oedd hi.