Mae awyren yn cario 116 o bobol wedi plymio i’r ddaear mewn storm law dros Mali, ac mae’r gweddillion wedi’u darganfod ger y ffin â Burkina Faso, y wlad drws nesa’.
Dyma’r drydedd ddamwain awyren waetha’ i ddigwydd o fewn yr wythnos ddiwetha’.
Fe ddiflannodd yr awyren Air Algerie oddi ar y sgriniau radar ychydig llai nac awr wedi iddi godi o faes awyr prifddinas Burkina Faso, Ouagadougou. Roedd ar ei ffordd tuag Algiers.
Fe fu awyrennau rhyfel o Ffrainc, ynghyd â milwyr heddwch y Cenhedloedd Unedig ac eraill yn chwilio am weddillion yr awyren. Fe ddaethpwyd o hyd iddyn nhw tua 30 milltir o’r ffin, ger pentre’ Boulikessi yn Mali.