Gwrthryfelwr ger safle'r ddamwain (Llun: PA)
Mae tîm o heddlu rhyngwladol wedi canslo ymweliad â’r fan yn nwyrain Wcrain ble wnaeth awyren M17 Malaysian Airlines syrthio o’r awyr yn ddiweddar.

Dywedodd Alexander Hug, dirprwy bennaeth y tîm monitro o’r Sefydliad dros Ddiogelwch a Chydweithrediad yn Ewrop ei bod yn llawer rhy beryglus mentro yno, gan fod yna ymladd ffyrnig yn yr ardal erbyn hyn.

Roedd y tîm o swyddogion, yn bennaf o’r Iseldiroedd ac Awstralia, i fod i chwilio ardal o rhyw 20 milltir am ragor o gyrff y teithwyr.

Fe wnaeth yr awyren ddymchwel gan ladd 298 o bobl ac mae yna amheuaeth ei bod wedi cael ei dinistrio gan daflegryn saethwyd gan wrthryfelwyr yn yr ardal sy’n gefnogol i Rwsia.