Mae beth bynnag wyth o bobol gyffredin wedi cael eu lladd yn ystod ymladd a bomio mewn dwy ddinas yn nwyrain Yr Wcrain.

Mae’r awdurdodau yn Luhansk wedi cadarnhau fod pump o bobol wedi cael eu lladd, a 15 arall wedi’u hanafu, mewn ymosodiadau dros nos. Mae tri o bobol gyffredin wedi’u lladd yn Donetsk.

Mae’r ardal rhwng y ddwy ddinas wedi bod yn dir llawn tensiwn, wrth i luoedd y llywodraeth geisio ennill rheolaeth o’r ardal lle cafodd awyren MH17 ei saethu i’r ddaear yn gynharach y mis hwn.

Mae’r ddwy ochr yn yr ymladd wedi beio’i gilydd am ladd pobol gyffredin. Mae’r rebeliaid yn cyhuddo lluoedd y llywodraeth o droi eu gynnau at ardaloedd lle mae pobol gyffredin yn byw. Ond mae lluoedd y llywodraeth yn dweud fod y gwrthryfelwyr yn defnyddio blociau fflatiau fel mannau tanio.