Mae Palesteiniad sy’n cymryd rhan yn y trafodaethau heddwch ag Israel yn dweud fod ei ochr e yn “llai optimistaidd” am setliad, wrth i ddedlein y cadoediad presennol agosau.

Mae’r tîm Palesteinaidd wedi ail-ymgynnull yn Cairo, prifddinas yr Aifft, heddiw, wedi i aelodau ddychwelyd o’r gyfarfodydd eraill yn Qatar, Lebanon a mannau eraill yn y Dwyrain Canol.

Mae’r tîm Israelaidd hefyd wedi dychwelyd er mwyn cario ymlaen â’r trafodaethau yn Cairo. Fe fydd y cadoediad pum niwrnod presennol yn dod i ben yn hwyr fory (dydd Llun).

Bwriad y trafodaethau rhwng y Palesteiniaid a’r Israeliaid yw rhoi’r gorau i’r ymladd ar Lain Gaza, a gwella amodau byw y 1.8 miliwn o bobol sy’n byw yno. Mae Israel hefyd eisiau gwybod na fydd y trigolion yn tanio mwy o rocedi at ei dinasyddion hithau.

Mae bron i 2,000 o Balesteiniaid wedi’u lladd yn y rhyfel diweddara’ hwn a ddechreuodd Gorffennaf 8. Mae 67 o Israeliaid wedi’u lladd.