Mae’r Almaen wedi cyhoeddi eu bod nhw’n barod i roi arfau i ymladdwyr Cwrdaidd sy’n brwydro gwrthryfelwyr Sunni yng ngogledd Irac.

Yn ôl y gweinidog tramor, Frank-Walter Steinmeier, mae’r Almaen yn fodlon gweithio gyda Ffrainc, Prydain a gwledydd Ewropeaidd eraill er mwyn gwneud yn siwr fod y gwrthryfelwyr yn cael eu trechu.

Fe ddaeth y cyhoeddiad wedi trafodaethau dwys a phwysau o du’r gymuned ryngwladol sy’n credu y dylai’r Almaenwyr ddarparu mwy na chymorth dyngadol i’r rhai sy’n brwydro ISIS.

Mae penderfynu i anfon arfau yn symudiad arwyddocaol gan yr Almaen, sydd, yn hanesyddol, wedi ceisio osgoi gwneud hynny.

Mae Mr Steinmeier yn dweud fod y penderfyniad wedi’i wneud oherwyydd fod amddiffynfeydd y Cwrdiaid dan bwysau, ac y byddai dymchwel y rheiny’n fwy o “gatastroffe” i Ewrop a’r byd.