Fe allai’r Unol Daleithiau lawnsio ymgyrch filwrol a fyddai’n targedu safleoedd gwrthryfelwyr Islamaidd eithafol yn Syria.

Mae un o uwch-swyddogion y Ty Gwyn yn Washington wedi codi’r mater, trwy ddweud y gallai America “weithredu mewn unrhyw fodd angenrheidiol” er mwyn gwarchod ei diogelwch ei hun a’r byd.

“Chawn ni ddim ein rhwystro gan ffiniau,” meddai Ben Rhodes, dirprwy gynghorydd Barack Obama ar faterion yn ymwneud a diogelwch cenedlaethol.

Ond mae’r Ty Gwyn wedi cadarnhau nad yw’r Arlywydd eto wedi derbyn unrhyw opsiynau milwrol y tu hwnt i’r rhai gafodd eu hawdurdodi yn gynharach y mis hwn ar gyfer ymosodiadau o’r awyr yn erbyn y grwp IS yn Irac.

Mae’r Unol Daleithiau, yn fwriadol, wedi osgoi ymyrryd yn rhyfel cartre’ Syria.