Mae’r wythnos ddiwetha’ wedi gweld y cynnydd mwya’ yn y nifer o achosion o Ebola nag ers pan dorrodd yr afiechyd allan yng ngorllewin Affrica.

Dyna y mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn ei ddweud heddiw.

Mae’r asiantaeth yn rhybuddio y gallai cynifer ag 20,000 o bobol gael eu taro gan yr afiechyd. Hyd yn hyn, mae wedi lladd mwy na 1,500 o’r 3,000 o ddioddefwyr yn Guinea, Liberia, Nigeria a Sierra Leone.

Mae’r WHO hefyd yn rhybuddio y gallai gwir nifer y dioddefwyr fod bedair gwaith y nifer sydd wedi’u cofnodi’n swyddogol.

Fe gafodd 500 o gleifion newydd eu diagnosio yn ystod yr wythnos ddiwetha’.