Mae Lesotho wedi cael ei hamgylchynu'n llwyr o fewn ffiniau De Affrica
Mae’r fyddin yn Lesotho wedi meddiannu gorsafoedd heddlu ac amgylchynu adeiladau’r llywodraeth yn y brifddinas Maseru.

Er y bu sŵn ergydion yn cael eu tanio yn ystod y nos, roedd hi’n dawel yno y bore yma, yn ôl un o swyddogion diogelwch Llysgenhadaeth America yn y wlad.

Dywedodd Bernar Ntlhoaea fod y fyddin wedi bod yn symud o gwmpas ers 3 o’r gloch y bore ac nad yw gorsafoedd radio yn darlledu yn y wlad.

Gwlad fach fynyddig sydd wedi ei hamgylchynu’n llwyr o fewn ffiniau De Affrica yw Lesotho, ac mae cysylltiadau agos wedi bod rhyngddi a Chymru ers i’r ddwy wlad gael eu hefeillio tua 30 mlynedd yn ôl.