Ahmet Davutoglu (AP Photo/Burhan Ozbilici)
Mae Llywodraeth Twrci wedi dweud bod 49 o wystlon a gafodd eu cipio gan filwriaethwyr Islamaidd yn Irac wedi cael eu rhyddhau ac wedi dychwelyd i Dwrci.

Cafodd y gwystlon eu cipio o genhadaeth Twrci ym Mosul yn Irac ar Fehefin 11, wrth i Isis ysgubo drwy’r ddinas yn ei hymgyrch i gipio tiroedd yn Irac a Syria.

Dywedodd Prif Weinidog newydd Twrci Ahmet Davutoglu fod y gwystlon wedi eu rhyddhau y bore ‘ma yn dilyn “ymdrechion dwys”, ond ni fanylodd ar y modd y gwnaeth Twrci ddwyn perswâd ar y mudiad.

Mae cred bod amharodrwydd Twrci i ymuno gyda’r Unol Daleithiau a choalisiwn o wledydd er mwyn curo Isis wedi bod yn allweddol. Yn ystod y mis diwethaf mae Isis wedi dienyddio dau newyddiadurwr o’r Unol Daleithiau ac un gweithiwr cymorth o Brydain.

Mae Arlywydd Twrci, Recep Tayyip Erdogan, wedi diolch i Brif Weinidog y wlad am “ymgyrch fwriadol a gafodd ei gynllunio o flaen llaw, a barodd trwy’r nos ac a ddaeth i ben yn llwyddiannus y bore ‘ma.”