David Cameron
Mae David Cameron wedi cael ei glywed yn dweud fod y Frenhines wedi croesawu’r newyddion fod yr Alban wedi pleidleisio yn erbyn annibyniaeth, pan ddywedodd wrthi dros y ffôn.

Fe glywodd meicroffonau rai o sylwadau’r Prif Weinidog wrth iddo sgwrsio â chyn-faer Efrog Newydd Michael Bloomberg heddiw yn ystod ymweliad a’r UDA.

Dywedodd Cameron wrth Bloomberg fod y Frenhines yn canu crwth i lawr y ffôn – ei air ef yn Saesneg oedd “purred” – wrth iddo ddweud canlyniad y refferendwm wrthi ar y ffôn ar fore dydd Gwener 19 Medi.

“Ystyr rhyddhad yw bod yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig a ffonio’r Frenhines a dweud ‘Mae’n iawn, mae’n oce’. Roedd hynny’n rhywbeth,” meddai Cameron, mewn sylwadau gafodd eu clywed gan y meicroffonau.

“Roedd hi’n canu crwth i lawr y ffôn.”

Cameron yn nerfus

Mae rhai rhannau o’r recordiad yn aneglur wedyn, yn ôl Sky News, ond yna fe glywir Cameron yn dweud: “Ddylai o byth wedi bod mor agos â hynny. Doedd e ddim yn y diwedd, ond roedd ‘na adeg yng nghanol yr ymgyrch pan oeddwn i’n teimlo…”

Yna mae rhagor o sŵn aneglur cyn i’r Prif Weinidog ddweud fod canlyniadau’r polau piniwn wedi rhoi “eiliadau nerfus” iddo.

Fe ddigwyddodd y sgwrs wrth i Cameron gael ei dywys o gwmpas swyddfeydd Bloomberg o flaen camerâu teledu.

Mae’r Prif Weinidog yn Efrog Newydd yr wythnos hon ar gyfer cynulliad cyffredinol y Cenhedloedd Unedig.

Fe wrthododd Palas Buckingham gadarnhau beth oedd ymateb y Frenhines pan siaradodd ar y ffôn gyda David Cameron yn dilyn y refferendwm.

Roedd hi wedi dweud y byddai’n aros yn niwtral yn ystod yr ymgyrch, a’r unig beth a ddywedodd hi ar ôl hynny oedd ei bod yn gobeithio y byddai Albanwyr yn “meddwl yn ofalus iawn” am eu penderfyniad.