Hannah Witheridge
Mae dyn o Burma wedi cyfaddef llofruddio dau ymwelydd o Brydain ar ynys yng Ngwlad Thai, yn ôl adroddiadau’n lleol.

Daethpwyd o hyd i gyrff Hannah Witheridge, 23, a David Miller, 24, ar draeth ar ynys Koh Tao ar 15 Medi.

Yn ôl papur newydd yng Ngwlad Thai, The Nation, mae dyn o Burma wedi cyfaddef llofruddio’r ddau ar ôl iddo gael ei arestio yn Surat Thani yng Ngwlad Thai.

Roedd archwiliadau post mortem yn dangos bod Hannah Witheridge, o Great Yarmouth yn Norfolk wedi marw o ganlyniad i anafiadau i’w phen, a bod David Miller o Jersey wedi cael sawl anaf i’w ben ac wedi boddi.

Mae’r heddlu eisoes wedi casglu profion DNA gan 200 o bobl yn Koh Tao ac mae disgwyl y canlyniadau rywbryd yr wythnos hon.