Megan ym Mharis
Mae’n anodd credu fy mod wedi bod yn byw ym Mharis ers chwech wythnos bellach. Gan fy mod yn astudio Ffrangeg yn y brifysgol, mae’n ofynnol i mi dreulio’r drydedd flwyddyn dramor.

Felly dyma fi, merch o dref fach yn Sir Gâr, yn gweithio mewn cwmni cyfieithu yng nghanol Paris. Yn ystod fy amser yma, rwy’n gobeithio profi amrywiaeth o bethau, o gelfyddydau i ddiwylliant.

Dw i eisoes wedi gweld yr holl atyniadau twristaidd felly rwy’n bwriadu darganfod ochr arall i’r ddinas nesaf.

Mae Paris mor annhebyg i unrhyw ddinas arall, gyda’i hadeiladau prydferth o gwmpas yr afon Seine, yr amrywiaeth o bobol o bob cwr o’r byd sy’n cerdded yn ddiamcan drwy’r strydoedd cul min nos, a’r brodorion sy’n eich anwybyddu pan maent yn clywed eich acen!

Er mai dinas gymharol fach yw Paris o’i gymharu â rhywle fel Llundain, mae pethau newydd i’w darganfod bob dydd yma ac rwy’n bwriadu gweld cymaint ag y galla i yn ystod fy amser byr yn byw yma.

Dyma felly restr fer o bethau dw i eisiau gweld, neu fy alternative bucket list fel petai:

Y Marais

Ymweld â’r Marais sef ardal Iddewig y ddinas. Dyma ardal brysuraf Paris ar ddydd Suliau, gan fod popeth ar agor yma.

Mae yma strydoedd troellog di-rif sy’n cynnwys siopau vintage sy’n gwerthu dillad mewn cilogramau a chaffis Morocaidd sy’n eich swyno gyda’u haroglau amrywiol.

Dyma gartref y Place des Vosges, sgwâr hynaf Paris, sydd wedi ei amgylchynu gan dai crand sydd yn ôl y sôn werth £12 miliwn yr un. Bydd nifer o fyfyrwyr yn treulio’u penwythnos yma, a phobol leol yn ogystal â thwristiaid.

Chateau Rouge

Hoffwn weld y Château Rouge sef un o ardaloedd mwyaf amlddiwylliannol Paris. Yma, mae marchnadoedd sy’n gwerthu nwyddau Affricanaidd gan fwyaf, gan gynnwys dillad unigryw a bwyd anhygoel am brisiau rhesymol iawn.

Printemps

Yn olaf, hoffwn fynd i siop fawr Printemps. Dyma brif gystadleuwr y Galeries Lafayette enwog.

Er ei bod yn llai enwog mae’r siop yn cynnig amrywiaeth o bethau i’w wneud gan gynnwys caffi ar y llawr uchaf. Yma gallwch weld golygfa 360 o’r ddinas gyda’r Tŵr Eiffel a’r Sacre-Coeur yn y gorwel.

A gwell fyth, mae am ddim!

Mae Megan Martin yn astudio Ffrangeg ym Mhrifysgol Caerdydd.