Mae un o’r bobol ifanc a gafodd eu hanafu mewn achos o saethu mewn ysgol yn yr Unol Daleithiau, wedi marw.

Mae hynny’n mynd a nifer y marwolaethau i bedwar.

Roedd myfyriwr wedi dechrau saethu at ei gyd-fyfyrwyr yn ffreutur yr ysgol.

Fe ddaeth cadarnhad fod Shaylee, Chuckulnaskit, 14 oed, wedi marw o ganlyniad i’w hanafiadau yng Nghanolfan Feddygol Ranbarthol Everett yn nhalaith Washington, brynhawn ddoe.

Fe gafodd Zoe Galasso, 14, ei lladd yn y digwyddiad yn Marysville-Pilchuck High School ar Hydref 24.  Bu farw Gia Soriano, 14, ddydd Sul.

Mae dau ddisgybl arall yn parhau i dderbyn triniaeth yn yr ysbyty.