Mae llys yn Yr Aifft wedi carcharu wyth o ddynion am gyfnod o dair blynedd, a hynny am “ymddygiad anfoesol” trwy ymddangos mewn priodas un-rhyw honedig ar gwch ar afon Nîl.

Mae fideo a gafodd ei gyhoeddi ar y we yn dangos dau ddyn yn cyfnewid modrwyau ac yn cofleidio ymysg ffrindiau oedd yn cymeradwyo a churo dwylo. Fe gafodd wyth dyn eu harestio fis Medi, wedi i swyddfa’r prif erlynydd yn Yr Aifft gyhoeddi datganiad yn dweud fod y fideo yn “dwyn gwarth ar Dduw a moesau cyhoeddus”.

Mae’r ddedfryd heddiw yn un mewn cyfres sy’n awgrymu fod yr awdurdodau yn y wlad yn gwneud pethau’n anodd i bobol hoyw a phobol sydd ddim yn arddel unrhyw ffydd.

Ym mis Ebrill eleni, fe gafwyd pedwar o ddynion yn euog o “ymddygiad masweddus” ac fe gawson nhw eu carcharu am wyth mlynedd am gynnal partïon lle’r oedd yna bobol hoyw, a lle cafwyd hyd i ddillad merched a cholur.