Mae dyn o Balestina wedi cael ei “saethu’n farw” yn ystod gwrthdaro gyda byddin Israel.

Credir fod y gwrthdaro wedi digwydd ger dinas Hebron yn ardal y Lan Orllewinol, lle bu tua 150 o Balestiniaid yn taflu cerrig a bomiau petrol at filwyr.

Mae’r tensiynau rhwng Palestina ac Israel yn parhau i waethygu, wedi’r bomio yn Llain Gaza.

Cafodd y dyn ei ladd ar ol i’r fyddin saethu tuag at y protestwyr, yn dilyn ymdrechion blaenorol i wahanu’r dorf.

Dywedodd swyddogion yn y Lan Orllewinol yn ddiweddarach fod y dyn wedi marw o anafiadau ergyd gwn.

Ddydd Llun, cafodd milwr o Israel a dynes o’r wlad eu lladd mewn ymosodiad arall yn Tel Aviv yn yr un ardal.