Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu
Mae Israel wedi dweud y bydd yn “ymateb yn chwyrn” i ymosodiad ar synagog yn Jerwsalem lle cafodd pedwar o bobl eu lladd.

Roedd dau ddyn o Balestina wedi mynd i’r synagog yng nghymdogaeth Har Nof gan ymosod ar addolwyr gyda chyllyll, bwyeill, a gynnau cyn i’r ddau gael eu saethu gan yr heddlu.

Cafodd chwech o bobl eraill eu hanafu yn yr ymosodiad.

Dywedodd y Prif Weinidog Benjamin Netanyahu bod yr ymosodiad yn “lofruddiaeth greulon o Iddewon oedd wedi dod i weddïo.”

Mae’n dweud mai anogaeth gan y grŵp milwriaethus Islamaidd Hamas ac Arlywydd Palestina Mahmoud Abbas sydd ar fai am y trais.

Daw’r ymosodiad diweddaraf wrth i densiynau gynyddu yn y ddinas, gyda chyfres o ymosodiadau gan Balestiniaid ar Israeliaid, sydd wedi lladd chwech yn ystod yr wythnosau diwethaf.