Sydney yn Awstralia
Mae menyw 20  oed yn cael ei holi gan heddlu yn Awstralia wedi i fabi newydd anedig cael ei ddarganfod mewn draen ger traffordd yn y ddinas.

Dywedodd Heddlu Awstralia bod y babi gwrywaidd, sydd ond ychydig ddyddiau oed, mewn cyflwr difrifol ond sefydlog yn Ysbyty Plant Westmead yn Sydney.

Daeth grŵp o feicwyr o hyd i’r babi pan glywsant sŵn crio yn dod o’r draen tra’n eithio ar hyd lôn beic wrth ochr y draffordd, M7.