Fe wnaeth dyn ffugio ei fod yn cael trawiad ar y galon mewn siop Wal-Mart yn Florida er mwyn i’w ffrind ddwyn llond troli o deganau, yn ôl awdurdodau.

Cafodd y ddau ddyn 30 a 27 oed eu harestio dydd Mawrth ar gyhuddiad o ddwyn.

Dywedodd Swyddfa Sheriff Sir Polk yn Florida fod y ddau wedi llenwi troli gyda nwyddau gan gynnwys car trydanol a thŷ chwarae.

Yna cafodd Genard Dupree, 27, ei weld yn gorwedd ar lawr y siop yn gafael yn ei frest. Wrth i staff a chwsmeriaid yn y siop ofalu amdano fe wnaeth Tarus Scott, 30, gerdded allan o’r siop gyda’r troli.

Cafodd y ddau eu gweld yn gadael y maes parcio mewn car arian yn ddiweddarach.