Y ddau frawd sy'n cael eu hamau (Llun: PA)
Mae’r ymgyrch chwilio enfawr i ddod o hyd i ddau frawd sy’n cael eu hamau o ladd 12 o bobol mewn swyddfa papur newydd dychanol yn parhau mewn ardal wledig y tu allan i Baris.

Mae swyddogion yn canolbwyntio ar safle yn ardal Picardi yn y gred fod Said a Cherif Kouachi wedi cael eu gweld yn dwyn o orsaf betrol yno fore ddoe.

Mae’r ymgyrch bellach ar ei thrydydd diwrnod gyda miloedd o swyddogion heddlu ar y strydoedd.

Cofio

Neithiwr fe dyrrodd trigolion Paris i sgwâr y Place de la Republique unwaith eto er mwyn cofio am y rhai o gollodd eu bywydau yn yr ymosodiad brawychol ar swyddfeydd papur Charlie Hebdo ac fe gafodd goleuadau’r Twr Eiffel eu diffodd yn deyrnged i’r 12.

Roedd awdurdodau yn yr Unol Daleithiau yn ymwybodol o’r ddau frawd cyn yr ymosodiad, yn ôl swyddogion gwrth-frawychiaeth.

Roedden nhw wedi cael eu rhoi ar restr y wlad o bobol sy’n cael eu gwahardd rhag hedfan yno.

Galaru

Fe gafodd y 12 o bobol eu saethu’n farw yn yr ymosodiad ddydd Mercher, gan gynnwys golygydd y cylchgrawn, o leia’ tri chartwnydd a dau blismon. Cafodd pump o bobol eraill eu hanafu’n ddifrifol.

Roedd Charlie Hebdo wedi trydar cartŵn o’r proffwyd Mohammed funudau cyn yr ymosodiad, gyda neges yn dymuno ‘gwyliau hapus’ i’w ddarllenwyr.

Mae’r ymosodiad wedi cael ei gondemnio gan arweinwyr ar draws y byd ac roedd Arlywydd Ffrainc  Francois Hollande wedi cyhoeddi diwrnod swyddogol o alaru ddoe.