Baner IS
Mae’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi cyhoeddi fideo ar y we sy’n bygwth lladd dau wystl o fewn y 24 awr nesaf.

Mae’r neges yn mynnu rhyddhau dynes o Irac, Sajida al-Rishawi, a gafodd ddedfryd o’r gosb eithaf yng Ngwlad yr Iorddonen am ei rhan mewn ymosodiad brawychol yn 2005 pan gafodd 60 o bobl eu lladd.

Mae’r grwp eithafol IS wedi bygwth lladd y peilot o’r Iorddonen Mu’ath al-Kaseasbeh, a Kenji Goto o Siapan os nad yw llywodraeth yr Iorddonen yn rhyddhau Sajida al-Rishawi.

Mewn fideo a gyhoeddwyd ar y penwythnos, gwelwyd Kenji Goto yn gafael mewn llun sy’n honni dangos corff y gwystl arall o Siapan, Haruna Yukawa.