Canghellor yr Almaen, Angela Merkel, Prif weinidog Sbaen Mariano Rajoy, ac Arlywydd Ffrainc Francois Hollande, yn ymweld a safle'r ddamwain yn yr Alpau
Mae ymchwilwyr yn dweud bod  blwch du awyren Germwanwings yn cynnwys lleisiau ond does “dim esboniad” pam fod yr awyren wedi plymio i’r ddaear yn yr Alpau yn ne ddwyrain Ffrainc, gan ladd 150 o bobl ar ei bwrdd.

Ond yn ôl adroddiadau mewn papur newydd yn yr Unol Daleithiau mae’r blwch du, sy’n cofnodi lleisiau’r peilotiaid, yn awgrymu bod un o’r peilotiaid wedi gadael y caban ond yn methu  dychwelyd i’w sedd ac i’w glywed yn curo’r drws.

“Mae’r dyn y tu allan yn curo’n ysgafn ar y drws ond does dim ateb,” meddai’r ymchwilydd, sydd heb gael ei enwi, yn y New York Times. “Ac wedyn mae’n curo’r drws yn gryfach a does dim ateb.”

Yn ol yr ymchwilydd, mae’r peilot i’w glywed wedyn yn “ceisio torri’r drws i lawr.”

Dywed y papur nad ydyn nhw’n gallu cyhoeddi enw’r ymchwilydd am fod yr ymchwiliad i’r ddamwain yn parhau. Ond dywedodd yr ymchwilydd nad yw swyddogion yn gwybod pam fod y peilot wedi gadael y caban.

‘Dim esboniad’

Roedd yr awyren yn teithio o Barcelona i Dusseldorf pan ddechreuodd blymio i’r ddaear. O fewn 10 munud roedd wedi plymio o uchder o 38,000 troedfedd i ychydig dros 6,000 troedfedd gan daro i mewn i ochr mynydd yn  Seyne-les-Alpes.

Dywedodd pennaeth yr adran ymchwiliadau i ddamweiniau awyr Ffrainc, Remi Jouty, “Ar hyn o bryd nid oes unrhyw esboniad.”

Ychwanegodd bod “lleisiau a synau” i’w clywed ar y blwch du ond y gallai gymryd dyddiau neu wythnosau i’w dadansoddi.

Mae ’na ddryswch hefyd ynglŷn â’r ail flwch du, gydag Arlywydd Ffrainc Francois Hollande yn awgrymu bod rhan allweddol o’r blwch ar goll.

Ddoe, roedd Francois Hollande, Canghellor yr Almaen Angela Merkel a phrif weinidog Sbaen Mariano Rajoy wedi ymweld â’r safle anghysbell i dalu teyrnged i’r rhai fu farw. Roedd y rhan fwyaf o’r teithwyr yn dod o’r Almaen a Sbaen ond roedd tri o bobl o Brydain hefyd ymhlith y meirw ynghyd a theithwyr o 17 o wahanol wledydd.

Mae disgwyl i deuluoedd rhai o’r teithwyr fu farw ymweld â’r safle heddiw.

Ymhlith y rhai fu farw roedd dau fabi, dau ganwr opera, ac 16 o ddisgyblion ysgol a dau athro o’r Almaen.