Mae beth bynnag 11 o bobol wedi’u lladd wedi i fws wyro oddi ar ffordd fynydd a chwympo i lawr dibyn yn India.

Mae 26 o deithwyr eraill wedi’u hanafu hefyd yn y ddamwain yn ardal Garhwa yn nhalaith Jharkhand.

Roedd y bws yn teithio o ddinas Raipur i gyfeiriad tre’ yn nhalaith Bihar pan ddigwyddodd y ddamwain. Yn ol adroddiadau cynnar, fe gollodd y gyrrwr reolaeth o’r cerbyd tra’n ceisio troi ar gornel gas.

Mae ffyrdd India ymysg y perycla’ yn y byd, gyda mwy na 110,000 o bobol yn cael eu lladd arnyn nhw bob blwyddyn. Mae’r rhan fwya’ o ddamweiniau’n digwydd o ganlyniad i yrru gwyllt, safonau gwael y ffyrdd, neu’r ffaith bod ceir mor hen.