Ffoaduriaid ym Mor y Canoldir
e fydd gweinidogion tramor yr Undeb Ewropeaidd yn trafod mesurau i geisio mynd i’r afael a nifer cynyddol y ffoaduriaid sy’n marw ym Môr y Canoldir.

Mae ’na bwysau cynyddol ar yr UE i ail-ddechrau ymgyrchoedd chwilio ac achub llawn ac am ymateb ar y cyd  rhwng y gwledydd Ewropeaidd.

Mae ’na ofnau bod hyd at 900 o bobl wedi boddi yn y digwyddiad diweddaraf ar ôl i gwch droi drosodd ym Môr y Canoldir. Roedd yn llawn o ffoaduriaid o Libya oedd yn ceisio cael lloches yn Ewrop.

Hyd yn hyn eleni, mae nifer y rhai sydd wedi marw mewn digwyddiadau o’r fath wedi cyrraedd mwy na 1,500.

Mae disgwyl i’r argyfwng fod ar frig ar yr agenda pan fydd gweinidogion tramor yr Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys Ysgrifennydd Tramor Prydain, Philip Hammond, yn cwrdd yn Lwcsembwrg heddiw.

‘Angen gweithredu’

Mae’r Blaid Lafur wedi galw ar  Lywodraeth San Steffan i adfer y cymorth ar gyfer ymgyrchoedd chwilio ac achub ym Môr y Canoldir.

Mae’r DU yn dadlau y gallai adfer yr ymgyrchoedd chwilio ac achub annog rhagor o ffoaduriaid i geisio teithio i Ewrop.

Daeth ymgyrch gan yr Eidal i ben y llynedd er gwaetha’r ffaith bod degau o filoedd o bobl wedi cael eu hachub wrth deithio o Ogledd Affrica. Yn ei le mae cynllun mwy cyfyngedig gan yr UE i ddiogelu’r ffin.

Dywedodd Philip Hammond bod angen atal y smyglwyr sy’n ceisio cludo ceiswyr lloches i Ewrop, fel nad ydyn nhw’n gwneud y daith yn y lle cyntaf.

Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur Ed Miliband: “Mae’r rhai sy’n marw ym Môr y Canoldir ymhlith rhai o dynion, merched  a phlant tlotaf yn y byd. Mae’n rhaid i ni weithredu nawr i atal y golygfeydd erchyll yma.”