Ffoaduriaid a gafodd eu hachub a'u cludo i'r Eidal
Mae erlynwyr wedi arestio capten ac aelod o griw cwch a oedd suddo ger arfordir Libya, gyda channoedd o ffoaduriaid ar ei bwrdd.

Dywedodd yr erlynydd, Rocco Liguori, bod y ddau ddyn, sy’n dod o Tunisia a Syria, wedi cael eu cyhuddo o fasnachu pobl.

Mae’r capten hefyd wedi’i gyhuddo o ddynladdiad o ganlyniad i esgeulustod mewn cysylltiad â’r digwyddiad dros y penwythnos.

Cafodd y ddau ddyn eu harestio ar gwch oedd yn cludo 27 o bobl i’r Eidal ar ôl iddyn nhw gael eu hachub. Fe allai hyd at 900 o bobl fod wedi boddi ar ôl i’r cwch droi drosodd. Mae ’na adroddiadau bod cannoedd o ffoaduriaid wedi cael eu cloi yng nghrombil y cwch.

Wrth i’r chwilio barhau am ffoaduriaid cafodd llongau gwylwyr y glannau eu galw i dri digwyddiad arall – dau ger Libya a thrydydd cwch a oedd wedi taro yn erbyn creigiau ger Gwlad Groeg.

Ymateb Ewrop

Mae arweinwyr Ewropeaidd wedi ei chael yn anodd ymateb yn ddigonol i’r argyfwng wrth i nifer y ceiswyr lloches gynyddu ac wrth i’r ansefydlogrwydd yn Libya barhau, gan roi rhwydd hynt i’r rhai sy’n masnachu pobl.

Mae Prif Weinidog yr Eidal, Matteo Renzi, wedi annog Ewrop i ganolbwyntio ar atal rhagor o gychod rhag gadael Libya. Mae 90% o’r ffoaduriaid sy’n teithio i’r Eidal yn dod  Libya.

Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi wynebu beirniadaeth gynyddol am ei ymateb i’r argyfwng, gyda dau ddigwyddiad o fewn yr wythnos diwethaf yn debygol o fod wedi arwain at farwolaeth 1,300 o farwolaethau.

Mae’n debyg bod tua 400 o bobl eraill wedi boddi ar ol i gwch arall droi drosodd ar 13 Ebrill.

Fe fydd atal y rhai sy’n masnachu pobl ar frig yr agenda pan fydd arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys David Cameron, yn cwrdd ym Mrwsel ddydd Iau, ynghyd a chynnig i ddyblu’r gwariant ar batrolio’r arfordir.