Y difrod yn sgil daeagryn Nepal
Parhau mae’r aros i nifer o deuluoedd y rhai o wledydd Prydain ac Iwerddon sy’n dal ar goll yn Nepal wedi’r daeargryn nerthol yno ddydd Sadwrn.

Mae nifer y rhai sydd wedi marw yn y daeargryn gwaethaf i daro’r wlad ers mwy na 80 mlynedd bellach wedi cyrraedd mwy na 4,300 ac mae miloedd o bobl eraill wedi’u hanafu ac yn ddigartref.

Bu farw 18 o bobl ar fynydd Everest ar ôl i eirlithrad daro gwersyll Base Camp, ac mae rhagor o ddringwyr yn gaeth ar y mynydd.

Mae Prydain wedi anfon tîm o beirianwyr Gurkha i helpu gyda’r ymdrechion yn y wlad.

Fe adawodd y milwyr safle’r Llu Awyr yn Brize Norton neithiwr ac roedd yr awyren yn cludo nwyddau i helpu’r rhai sy’n ddigartref.

Mae timau chwilio ac achub o’r DU hefyd wedi cyrraedd prifddinas Nepal, Kathmandu.

Yn ogystal â’r problemau cyfathrebu, mae ’na brinder bwyd, meddyginiaethau a chyflenwadau dwr a thrydan. Mae nifer o ffyrdd ar gau ac mae olgryniadau wedi atal awyrennau rhag glanio ym maes awyr Kathmandu.

Apêl am gymorth

Ddoe, roedd  Llywodraeth San Steffan wedi rhoi addewid am ragor o gymorth ariannol ac mae’r Ysgrifennydd Datblygiad Rhyngwladol Justine Greening wedi dweud y bydd yn rhoi swm cyfatebol i’r £5 miliwn gyntaf sy’n cael ei roi gan y cyhoedd i apêl Pwyllgor yr Argyfyngau Brys (DEC).

Fe fydd DEC yn cyhoeddi apel am gymorth ar y teledu heddiw.

Mae’r DU eisoes wedi dweud y bydd yn rhoi pecyn cymorth gwerth £5 miliwn.

Mae’r Swyddfa Dramor wedi dweud nad ydyn nhw wedi derbyn adroddiadau am unrhyw Brydeinwyr sydd wedi cael eu lladd neu eu hanafu ond mae staff yn y llysgenhadaeth wedi rhoi cymorth a chyngor i 200 o bobl.

Mae pedwar o bobl o Gymru ar goll ar hyn o bryd –  Daniel Thomas Hughes, 36, o Wrecsam; y brodyr Darren Russell, 26, a Jason Russell, 28, o Wrecsam; a Huw Alexander Lashmar, 57, sy’n dod o Gymru ond yn byw yn Awstralia.

Mae adroddiadau bod teuluoedd y tri o Wrecsam wedi clywed eu bod yn ddiogel ond nid oes cadarnhad swyddogol o hynny ar hyn o bryd.