Ffoaduriaid yn cael eu hachub gan wylwyr y glannau yn yr Eidal y mis diwethaf (Llun: PA)
Cafodd dros 4,000 o ffoaduriaid o arfordir Libya eu hachub mewn 22 o wahanol gyrchoedd gan Wylwyr Glannau’r Eidal ddoe.

Dywedodd y gwylwyr i 17 o bobl gael eu darganfod wedi marw ar un o’r cychod, ond bod cyfanswm o 4,243 wedi cael eu achub a’u cludo i borthladdoedd yn yr Eidal.

Mae smyglwyr yn gwneud miliynau trwy orlenwi cychod peryglus ac anaddas â ffoaduriaid i’w cludo o arfordir Libya i’r Eidal. Mae’r mudwyr yn ffoi rhag rhyfel, erledigaeth neu dlodi yn Affrica a’r Dwyrain Canol.

Fe wnaeth llongau cargo a llongau llynghesoedd Iwerddon a’r Almaen helpu llongau milwrol yr Eidal yn y cyrchoedd achub ddoe. Mae’r Eidal wedi mynnu bod gwledydd eraill Ewrop yn gwneud mwy i helpu ar ôl i niferoedd anferthol o ffoaduriaid lanio yno eleni.