Dinas Tokyo, Japan
Mae daeargryn cryf wedi taro Japan, ond fe ddigwyddodd yn ddigon dwfn o dan y ddaear i beidio ag achosi tsunami na difrod difrifol.

Roedd cryndod i’w deimlo drwy’r wlad pan ddigwyddodd y daeargryn ar ddyfnder o 370 milltir am 12.30pm heddiw yn ein hamser ni.

Roedd adeiladau’n siglo yn y brifddinas Tokyo, a tharfwyd ar wasanaethau trên, ac fe tua 400 o gartrefi heb drydan.