
Mae daeargryn wedi taro arfordir dwyreiniol yr Unol Daleithiau.
Tarodd y daeargryn 5.9 ar y raddfa Richter am 1.51pm (5.51pm amser Cymru) tua naw milltir o dref Mineral yn nhalaith Virginia.
Cafodd y daeargryn ei deimlo yn y brifddinas Washington a New York a bu’n rhaid i bobol adael adeilad y Pentagon ac adeiladau eraill y llywodraeth gerllaw.
Mae yna adroddiadau fod adeiladau wedi eu difrodi ger canolbwynt y daeargryn.
Mae’r canolbwynt filltiroedd yn unig o orsaf niwclear North Anna yn Richmond.