Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Rhyddhau dau Americanwr o garchar yn Iran

Medi 21, 2011 17:39, Diweddarwyd am 18:10

Mae dau ddyn o’r Unol Daleithiau

 gafodd eu carcharu am wyth mlynedd am ysbio, wedi cael eu rhyddhau ar fechniaeth o garchar yn Tehran, yn ôl adroddiadau.

Credir bod Shane Bauer a Josh Fattal wedi gadael carchar  Evin a’u bod nhw wedi hedfan o’r wlad.

Cafodd y ddau eu harestio yn 2009 ar ôl croesi i Iran o Irac, lle roedden nhw’n honi eu bod yn heicio, a chawson nhw eu dedfrydu ym mis Medi eleni.

Gadawodd y ddau, sy’n 29 oed, funudau ar ôl i’w cyfreithiwr, Masoud Shafiei,  orffen y gwaith papur a fyddai’n sicrhau eu bod yn cael eu rhyddhau.

Dywedodd bod yr arian ar gyfer eu mechniaeth, tua $500,000 yr un, wedi cael ei dalu gan dalaith Oman, sydd â pherthynas da â Iran.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Unol Daleithiau na fyddan nhw’n gwneud datganiad ynglyn â’r datblygiadau nes bod y ddau wedi gadael Iran.

Mae’r achos wedi gwaethygu tensiynau rhwng yr Unol Daleithiau a Iran – dywedodd Ysgrifennydd Gwladol yr UDA Hillary Clinton ei bod hi’n “siomedig iawn” ynglyn â’r dedfrydau.

Mae Bauer a Fattal wedi mynnu o’r dechrau eu bod yn ddi-euog a’u bod wedi croesi’r ffin drwy ddamwain tra ar wyliau cerdded.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.